Gweithgareddau Eraill:

gymnastics
dawns
English

Ar ein Beic

Ar eich Beic gyda Pedal Power

Yma yn Pedal Power rydym wrth ein bodd yn rhoi pawb ar feic ac mae ein hamrywiaeth eang o feiciau a threiciau‘n golygu nad yw byth yn rhy hwyr i ddysgu, ailgydio yn eich hyder a rhoi hwb i’ch iechyd a’ch lles. Mae ein lleoliad hyfryd yn darparu amgylchedd diogel, heb draffig ar lwybrau gwasatad drwy barciau braf.

Gan anelu ein sesiynau at 60 a mwy, rydym yn cynnig:

Dysgu Reidio (cwrs 6 wythnos) – ar gyfer dechreuwyr absoliwt sydd am feicio ar 2 olwyn 
Meithrin Hyder Dechreuwyr (cwrs 6 wythnos) – gallwch eisoes feicio a hoffech feithrin eich sgiliau a’ch hyder 
Taith Les (cwrs 8 wythnos) – gadewch i ni gael pawb i feicio oherwydd mae’n hwyl! 

Mae gennym feiciau ochr yn ochr a thric i gael pawb i gymryd rhan a gall eich teulu, ffrind neu ofalwr ddod draw i gefnogi hefyd. Cyfle gwych i brofi’r tymhorau sy’n newid, edmygu a phrofi natur ac ymweld â’r afon a chelf yn y parc.

I gofrestru, cysylltwch â Hillary ar 07895 533848 neu nodwch eich manylion isod




    *bydd cadarnhad o archeb yn cael ei anfon drwy e-bost. Sylwch y bydd angen cymryd taliadau dros y ffôn.

    Cofrestrwch ar gyfer Chwaraeon Caerdydd isod